#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 25 Ionawr ac 8 Chwefror, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad ar y goblygiadau posibl i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:

§    30 Ionawr: Cyfarfod preifat, gan gynnwys Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru - gwybodaeth gan Brif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad ar oblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50. Yn ogystal, trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith, a chytunodd ar y cynigion manwl am ymchwiliad i bolisi rhanbarthol – ble nesaf i Gymru?

§    6 Chwefror: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru - sesiwn dystiolaeth gyda'r Prif Weinidog. Trafododd y Pwyllgor gyda'r Prif Weinidog Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, ei ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU; y pwerau a'r cyfrifoldebau datganoledig ar ôl gadael yr UE, y trafodaethau yng nghyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion ar 30 Ionawr, a chysylltiadau masnachu yn y dyfodol.

§    Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan David Jones, y Gweinidog dros Adael yr UE, ar 13 Chwefror.

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Arall

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ynghyd ag ymchwiliad i Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru. Rhoddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, dystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddyfodol amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar 1 Chwefror.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau newydd gau ei ymgynghoriad ar sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru ar ôl gadael yr UE.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

7 Chwefror: Dadl: “Diogelu dyfodol Cymru”: Symud o'r Undeb Ewropeaidd at berthynas newydd ag Ewrop.

Llywodraeth Cymru

28 Ionawr: £13m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer yr Athrofa Ymchwil i Dechnoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Newyddion

26 Ionawr: Amser i'r diwydiant ddangos ei werth yn ystod trafodaethau'r Llywodraeth ar adael yr UE. (NFU)

31 Ionawr: Sicrhau dyfodol Cymru - Papur Gwyn Llywodraeth Cymru (Brîff NFU Cymru)

1 Chwefror: CLA yn nodi'r risgiau i ffermio yn sgil ansicrwydd gadael yr UE yn Ymchwiliad Tŷ'r Arglwyddi.

1 Chwefror: FUW yn croesawu cydnabyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig o fygythiad Seland Newydd i daro bargen fasnachu.

2 Chwefror: FUW yn cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig - amaethyddiaeth ar ôl gadael yr UE.

2 Chwefror: Yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyfarfod ag aelodau NFU Cymru.

6 Chwefror: Trafod dyfodol ffermio ar ôl gadael yr UE yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol FUW Meirionnydd.

3.       Y diweddaraf o'r UE

Y Cyngor Ewropeaidd

3 Chwefror: Sylwadau gan Donald Tusk, y Llywydd, yn yr uwch-gynhadledd anffurfiol yn Malta.

o 15 Rhagfyr 2016.

Newyddion Ewropeaidd

Ymgynghoriad ar foderneiddio a symleiddio'r polisi amaethyddol cyffredin  (yn dod i ben 2 Mai)

4.       Datblygiadau yn y DU

Llywodraeth y DU

26 Ionawr: Araith y Prif Weinidog i gynhadledd Plaid Weriniaethol (UDA) 2017

27 Ionawr: cynhadledd y Prif Weinidog i'r wasg  gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

30 Ionawr: Datganiad y Prif Weinidog ar ôl y trafodaethau ag Enda Kenny .

2 Chwefror: Mae partneriaeth 'newydd, gadarnhaol ac adeiladol' â'r UE  -  Papur Gwyn .

6 Chwefror: Araith Greg Hands (Gweinidog Masnach Rhyngwladol) i Siambr Fasnach Prydain yn yr Almaen.

JMC (Llawn)

30 Ionawr: Cyd-bwyllgor y Gweinidogion

Cyfarfu’r Prif Weinidog â Gweinidogion o’r gwledydd datganoledig yng nghyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yng Nghymru.

Datganiad Ysgrifenedig -JMC (P)  Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Amser yn brin i’r Prif Weinidog ddod i gytundeb ledled y DU cyn sbarduno Erthygl 50  - Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon

Tŷ’r Cyffredin

Trawsgrifiad o ddadl Neuadd San Steffan: 17 Ionawr: Gadael yr UE: Y goblygiadau i Gymru  (Stephen Doughty AS agorodd y ddadl, ac atebwyd ef gan Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Guto Bebb AS)

25 Ionawr: Cwestiynau Cymreig a Chwestiynau’r Prif Weinidog:

Wrth ateb cwestiwn ynghylch pwerau amaethyddol ar ôl gadael yr UE, dywedodd Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Guto Bebb AS) fel a ganlyn: “there is an ongoing and positive discussion between Westminster and the Welsh Government in relation to where powers will lie”.

Dywedodd Prif Weinidog y DU: “no powers that are currently devolved are suddenly ​going to be taken back to the United Kingdom Government. We will be looking at and discussing with the devolved Administrations how we deal with those powers that are currently in Brussels when they come back to the United Kingdom”.

26 Ionawr: Darlleniad cyntaf Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Tynnu’n Ôl).

26 Ionawr: Atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd gwestiynau.

31 Ionawr 1 Chwefror: Ail Ddarlleniad Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Tynnu’n Ôl), pasiwyd y darlleniad. Datganiad agoriadol y Gweinidog a’i ddatganiad i gloi.

2 Chwefror: Datganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd a chwestiynau ar Adael yr UE: Partneriaethau Newydd

1 Chwefror: Cwestiwn ar Adael yr UE: Ardal Deithio Gyffredin y DU-Iwerddon.

6 Chwefror: Datganiad gan Prif Weinidog y DU a chwestiynau ar y Cyngor Ewropeaidd Anffurfiol  yn Valletta.

6 Chwefror: Diwrnod cyntaf y Cam Pwyllgor Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Tynnu’n Ôl).

25 Ionawr: Y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn dechrau ei ymchwiliad "Gadael yr UE: Blaenoriaethau negodi ar gyfer polisi ynni a newid yn yr hinsawdd", gyda sesiwn yn canolbwyntio ar ddiogelwch masnach, cyflenwad ynni, a heriau penodol ar gyfer Gogledd Iwerddon.

25 Ionawr: Cwestiynau’r Pwyllgor Materion Cartref arbenigwyr trafnidiaeth a dosbarthu ar effaith ymadawiad y DU or undeb tollau’r UE.

31 Ionawr: Holodd y Pwyllgor Materion Cartref yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, ar oblygiadau ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

1 Chwefror: Cymerodd y Pwyllgor Masnach Ryngwladol dystiolaeth gan Dr Liam Fox, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, ar fasnach y DU- UE ar ôl Brexit.

1 Chwefror: Cymerodd y Pwyllgor Cyfiawnder dystiolaeth ar Beth yw dyfodol y sector cyfreithiol ar ôl Brexit?

1 Chwefror: Cymerodd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd dystiolaeth gan Syr Ivan Rogers ar gysylltiadau UE-DU.

30 Ionawr: Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig dystiolaeth ysgrifenedig gan ColegauCymru  ar gyfer yr ymchwiliad ar y goblygiadau i Gymru yn sgil canlyniad refferendwm yr UE.

7 Chwefror: Masnach ar ôl Brexit gyda’r Gymanwlad a gweddill y byd yn cael ei archwilio gan y Pwyllgor Masnach Ryngwladol. Roedd y tystion yn cynnwys yr Arglwydd (Digby) Jones o Birmingham a'r Arglwydd Marland.

7 Chwefror: Archwilio effaith Brexit ar y cap allyriadau a safonau ynni gan y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

7 Chwefror:  Cymerodd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol dystiolaeth ar Reoliad Cemegau’r UE .

8 Chwefror: Cymerodd Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad Dyfodol y ffin tiriogaethol â Gweriniaeth Iwerddon  .

8 a 9 Chwefror: Cymerodd Pwyllgor Gadael yr UE dystiolaeth gan dystion o’r Alban (gan gynnwys Michael Russell MSP) a Chernyw ar gyfer yr ymchwiliad Amcanion negodi’r DU ar gyfer gadael yr UE.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal "cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd".

26 Ionawr: Dadl Tynnu'n ôl o'r UE ac o bosibl tynnu'n ôl o'r Farchnad Sengl. Hefyd dadl: 'Brexit: Cysylltiadau Rhyngwladol y DU.

30 Ionawr: Cwestiwn ynghylch Brexit: Y diwydiannau creadigol.

1 Chwefror: Cwestiwn ynghylch Brexit: Hawliau Preswyl  .

2 Chwefror: Cwestiynau ynghylch Brexit: Safonau amgylcheddol, Brexit: Erthygl 50, a Brexit: Masnach.

2 Chwefror: Dadleuon ar  Brexit: Partneriaethau newydd, ac ar Brexit: Pobl anabl

6 Chwefror: Cwestiynau ynghylch Brexit: Tollau a Staff y Ffin,  Brexit: Y diwydiant awyrofod, a  Brexit: Trafnidiaeth.

6 Chwefror: Datganiad a chwestiynau am y Cyngor Ewropeaidd Anffurfiol.

9 Chwefror: Dadl ar adroddiad Pwyllgor Materion Ariannol yr UE ar Brexit a gwasanaethau ariannol.

26 Ionawr: Cyhoeddodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd ymateb y Llywodraeth i Brexit: adroddiad craffu seneddol.

1 Chwefror: Cymerodd Pwyllgor yr Undeb Erwropeaidd dystiolaeth yng Nghaeredin ar gyfer ei ymchwiliad i effaith Brexit ar y setliad datganoli. Roedd y tystion yn cynnwys Michael Russell MSP, Gweinidog dros drafodaethau â’r DU ynghylch lle’r Alban yn Ewrop, Llywodraeth yr Alban.

7 Chwefror: Cymerodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd dystiolaeth yng Nghaerdydd. Roedd y tystion yn cynnwys Andrew RT Davies AC, Leanne Wood AC a Neil Hamilton AC . Bydd Carwyn Jones AC yn rhoi tystiolaeth ym mis Mawrth.

Cymerodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE dystiolaeth ar oblygiadau Brexit ar gyfer amaethyddiaeth yn y DU. 31 Ionawr:  ffermwyr a sefydliadau prosesu bwyd. 1 Chwefror:  ffermwyr sy'n denantiaid, perchnogion tir a ffermio organig.

2 Chwefror:  Cymerodd Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE dystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad 'Brexit: masnachu mewn nwyddau rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol'.

Cymerodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd dystiolaeth gan: 31 Ionawr: academyddion a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a 2 Chwefror: Robin Walker AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol,  Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel rhan o'i ymchwiliadau parhaus ar Brexit: Gwledydd Dibynnol y Goron a Brexit: Gibraltar.

6 Chwefror: Y Pwyllgor Materion Economaidd yn clywed tystiolaeth gan economegwyr blaenllaw ar gyfer ei ymchwiliad i effaith Brexit ar farchnad lafur y DU.

7 Chwefror: Cymerodd Is-bwyllgor Ynni a'r Amgylchedd yr UE dystiolaeth ar fasnach amaethyddiaeth y DU ar ôl Brexit.

8 Chwefror: Cyfarfod y Grŵp Cyswllt Brexit, dan arweiniad y Pwyllgor Cyswllt.

1 Chwefror: Clywodd Pwyllgor y Cyfansoddiad dystiolaeth gan arbenigwyr ar ddeddfwriaeth ddirprwyedig, ac ar 8 Chwefror gan Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae'r Pwyllgor yn ystyried sut y mae’r Senedd yn dirprwyo pwerau i'r Llywodraeth ac yn ystyried y defnydd o'r pwerau hyn yng nghyd-destun Bil y Diddymu Mawr.

Newyddion

31 Ionawr: 'Brexit' yn risg i amddiffyn hawliau dynol rhag llygredd gwenwynig - Arbenigwr y Cenhedloedd Unedig

3 Chwefror: Her gyfreithiol newydd i Brexit yn cael ei hatal yn yr Uchel Lys (Erthygl 127).

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

25 Ionawr: Datganiad a chwestiynau ar Ddyfarniad y Goruchaf Lys (Erthygl 50)

26 Ionawr: Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol sesiwn drafod ar Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (y goblygiadau i’r Alban).

2 Chwefror: Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth, gan gynnwys gan Michael Russell MSP (Y Gweinidog dros Drafodaethau’r DU ar Le’r Alban yn Ewrop), ar ganlyniad y refferendwm a phapur Llywodraeth yr Alban "Scotland’s Place in Europe".

6 Chwefror: Mae'r Pwyllgor Ewropeaidd wedi galw am lywodraethau Alban a'r DU i ystyried “a bespoke – or differentiated – solution for immigration policy in Scotlandar ôl Brexit.

Llywodraeth yr Alban

25 Ionawr: cysylltiadau Ewropeaidd dan fygythiad  - Brexit yn amharu ar gyfleoedd diwylliannol a thwristiaeth

26 Ionawr: Cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol yr Alban am Brexit - Dim cynnig a dim sicrwydd am y pwerau fydd yn dychwelyd.

30 Ionawr: Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn i Senedd Ewrop i sicrhau bod llais yr Alban yn cael ei glywed yn ystod proses Erthygl 50.

1 Chwefror: Yr UE yn hanfodol i wasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol - Gweinidogion yn archwilio’r effaith ar y gweithlu ac ar ymchwil glinigol.

6.       Gogledd Iwerddon

Cynulliad Gogledd Iwerddon

Cynhelir yr etholiadau ar 2 Mawrth.

7.       Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon

6 Chwefror: Bargen ar y ffiniau 'ddim yn bosibl yn gyfreithiol' ar ôl Brexit (Irish Examiner). Mae’n dweud hyd yn oed gyda Chytundeb Masnach Rydd, bydd TAW mewnforio a threthi cartref yn dal i gael eu casglu, a bydd rhywfaint o wirio cerbydau preifat a cherbydau nwyddau.

25 Ionawr: Cwestiwn yn y Seanad ar y posibilrwydd o symud Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop o Lundain i Iwerddon.

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

§    European attractiveness survey Plan B … for Brexit (Ernst & Young)

§    Local voting figures shed new light on EU referendum (BBC)